Cwmni cydweithredol yw Martha Stone wedi'i ffurfio gan Sarah Broughton, Cyfarwyddydd Creadigol, Suzanne Phillips, Cynhyrchydd Cynnwys a Bryn Roberts, Cyfarwyddydd Busnes. Ein angerdd yw dweud stori a rydym yn gweithio ar pa bynnag platfform sydd yn siwtio ein perthynas gyda'n cynulleidfaoedd, bo hynny yn ffilm, gemau, perfformiadau byw neu theledu.

Lansiwyd y cwmni yn 2018 gyda Andrew Davies: Rewriting the Classics dogfen celfyddydol a enwebwyd am BAFTA a gomisiynwyd gan BBC4 a BBC Cymru. Yn y ffilm awr o hyd edrychwn ar wreiddiau Cymreig Andrew a'i siwrne rhyfeddol o Gaerdydd ar ôl y rhyfel i fod yn yr addaswr teledu enwocaf y byd.

Rydym yn datblygu ffilmiau ar gyfer y sinema. Maent yn cynnwys:

The Vegetarian Tigers of Paradise: wedi'i gefnogi gan Rhwydwaith BFI Cymru Cronfa Horizons, mae hon yn gomedi tywyll wedi'i leoli yng Nghaerdydd a wedi'i addasu gan yr awdur gwobrwyedig Crystal Jeans o'i nofel cyntaf.

Demolition Dad: ffilm i'r teulu sydd yn cael ei ddatblygu trwy cynllun HATCH Ffilm Cymru. Mae Keiron Self a Giles New wedi ail leoli nofel poblogaidd Phil Earle i Dde Cymru mewn stori ddoniol a teimladwy sydd yn adrodd stori perthynas tad a mab sydd yn mynd trwy gyfnod anodd.

Brando's Bride: Stori wir, diddorol am Anna Kasfi a'i phriodas ag un o actorion mwyaf Hollywood mae'r ffilm yma yn cael ei ddatblygu gyda y sgwennwr cydnabyddiedig Gurpreet Kaur Bhatti (Behzti a A Kind of People). Yn seliedig ar lyfr Cyfarwyddydd Creadigol Martha Stone, Sarah Broughton.

Cynnwys arall:

LifeLab: gêm digidol ar sgrîn sydd yn cael ei ddatblygu trwy Clwstwr, rhaglen Ymchwil a Datblygui'r sector sgrîn yn Ne Cymru sydd yn cael ei gyllido gan Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Suzanne Phillips a Bryn Roberts sy'n arwain y fenter yma a gobeithiwn y bydd yn troi allan i fod yn gêm rhyngweithiol aml blatfform sydd wedi'i anelu at fobol sy'n gweithio yn y sector iechyd meddwl.

MotherLove: ffilm fer tair munud o hyd am bump mam a'u perthynas gyda'u plant LGBTQ+. Dangoswyd yn gyntaf ar noson agoriadol Gwyl Ffilmiau LGBTQ+ Gwobr Iris.

Square Peg: Rydym yn dathlu lleisiau gwahanol

Rydym yn gweithio gyda cyrff megis Hwb Cefnogaeth ACEs, Iechyd Cyhoeddus Cymru, hyfforddiant PATH a Parthian Books i gynhyrchu cynnwys ffurf fer.

Rydym yn cynhyrchu cynnwys sydd yn dod ȃ bywyd i'ch gweledigaeth

Rydym wastad yn chwilio am bartneriaid creadigol i weithio gyda nhw ar gynnwys sydd yn ein cyffroi. Ein nôd yw i roi sialens i'r status quo ac i archwilio cymlethdod bywyd yn ein gwaith.